David GlynOWENDymuna Helen ddiolch o galon am yr holl gefnogaeth, ymweliadau, cardiau a'r galwadau ffôn mae wedi ei dderbyn ym marwolaeth frawychus ac annisgwyl Dafydd yn Ysbyty Gwynedd.
Diolch i'r Parchedig Selwyn Griffith am arwain y gwasanaeth ac i Mrs Lowri Prys Roberts wrth yr organ.
Diolch i swyddogion Eglwys Santes Helen, Penisa'rwaun am eu cymorth ar ddydd yr angladd.
Diolch i Rhian a Meirwen am eu teyrngedau ac i Delyth fy ffrind am bob cymwynas.
Diolch am yr holl roddion drwy flodau ac yn ariannol a gasglwyd er cof am Dafydd tuag at Neuadd Gymuned Penisa'rwaun.
Diolch i'r cwmni arlwyo Bys a Bawd o Ynys Môn. Diolch i Jan, Ty Blodau, Pontrug am y torchau hyfryd.
Diolch hefyd i Meinir a'i staff Cyfarwyddwyr Angladdau Dylan Griffith am y trefniadau trylwyr a gofalus.
Keep me informed of updates